OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 202 (Cy.33)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Y gwasanaeth Iechyd gwladol, Cymru
plant a phobl ifanc, Cymru
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud gofynion ynglŷn â’r categorïau proffesiynol y mae’n rhaid dewis gweithwyr ohonynt i fod yn aelodau o dîm integredig cymorth i deuluoedd (ICiD). Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn pennu’r hyn y mae’n rhaid i fwrdd ICiD ei wneud i gyrraedd yr amcanion a roddwyd iddo gan adran 62 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“Mesur 2010”).
Mae adran 57 o Fesur 2010 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu un neu ragor o dimau ICiD. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ardaloedd awdurdodau lleol y mae adran 57 wedi cael ei dwyn i rym mewn perthynas â hwy ac y mae ganddynt ddyletswydd i sefydlu tîm ICiD. Ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu dwyn i rym mae adran 57 mewn grym mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau lleol a ganlyn: Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam, Caerdydd a Bro Morgannwg (gweler Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010 a Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 4) 2012).
Mae rheoliad 2 yn gwneud yn ofynnol bod rhaid i dîm ICiD gynnwys craidd o bum gweithiwr proffesiynol o’r tri phroffesiwn: gwaith cymdeithasol, nyrsio a gwasanaethau ymwelwyr iechyd. Rhaid i bob un o’r proffesiynau gael ei gynrychioli yn y tîm. Ar ben hynny, rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol, neu os oes rhagor nag un gweithiwr cymdeithasol, rhaid i o leiaf un ohonynt, fod yn weithiwr cymdeithasol ymgynghorol, fel y’i diffinnir yn rheoliad 1.
Mae rheoliad 3 yn gwneud yn ofynnol bod gan y tîm ICiD sgiliau a phrofiad addas, o ystyried y mathau gwahanol o achosion yr atgyfeirir iddo, unrhyw ganllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi a’r angen sydd ar aelodau proffesiynol o’r tîm ICiD am gymorth gweinyddol.
Mae rheoliad 4 yn nodi’r swyddogaethau y mae’n rhaid i fwrdd ICiD eu cyflawni er mwyn cyrraedd ei amcanion fel a nodir yn adran 62(1) o Fesur 2010.
Mae rheoliad 5 yn dirymu Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1690) (Cy.159).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynglŷn â chostau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Gyfarwyddiaeth Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 202 (Cy.33)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Y gwasanaeth Iechyd gwladol, Cymru
plant a phobl ifanc, Cymru
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2012
Gwnaed 30 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 31 Ionawr 2012
Yn dod i rym 28 Chwefror 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 60(1) a 62(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig
Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau)
(Cymru) 2012 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2012
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru, y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol, y Cyngor Proffesiynau Iechyd neu ar gofrestr gyffelyb o weithwyr cymdeithasol a gynhelir yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
ystyr “gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol” (“consultant social worker”) yw gweithiwr cymdeithasol sydd â thair blynedd, o leiaf, o brofiad ar ôl cymhwyso ac yn meddu ar y cyfryw sgiliau, cymwysterau a chymwyseddau ag a bennir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn canllawiau a ddyroddir o dan adran 65 o Fesur 2010;
ystyr “nyrs” (“nurse”) yw person a gofrestrwyd yn rhan y nyrsys o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;
ystyr “tîm” (“team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd o dan Ran 3 o Fesur 2010;
ystyr “ymwelydd iechyd” (“health visitor”) yw person a gofrestrwyd yn rhan y nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac sydd â’i gofnod yn y rhan honno o’r gofrestr yn cofnodi cymhwysedd mewn gwasanaethau ymwelwyr iechyd.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran yr ardaloedd hynny o Gymru y mae adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd) o Fesur 2010 wedi ei chychwyn mewn perthynas â hwy([2]).
Cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd
2.—(1)(1) Rhaid i dîm gynnwys o leiaf bum person y mae pob
un ohonynt yn dod o un o’r categorïau proffesiynol a
ganlyn—
(a) gweithiwr cymdeithasol;
(b) nyrs; neu
(c) ymwelydd iechyd.
(2) Rhaid i dîm gynnwys o leiaf un person o bob un o’r categorïau yn is-baragraffau (a) i (c) o baragraff (1).
(3) Rhaid i un aelod o’r tîm fod yn weithiwr cymdeithasol ymgynghorol.
3. Rhaid i dîm gynnwys staff sy’n meddu ar sgiliau a phrofiad addas, gan ystyried—
(a) y categorïau o achosion y gellir eu hatgyfeirio at y tîm;
(b) yr angen sydd ar y staff proffesiynol am gymorth gweinyddol; ac
(c) unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 65 o Fesur 2010.
Byrddau Integredig Cymorth i Deuluoedd
4. Er mwyn cyrraedd yr amcanion yn adran 62(1) o Fesur 2010 (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd) rhaid i fwrdd integredig cymorth i deuluoedd—
(a) cael ac ystyried adroddiadau rheolaidd oddi wrth y person sy’n rheoli’r tîm gan gynnwys gwybodaeth am lefelau gweithgarwch gwasanaethu a chanlyniadau;
(b) ceisio datrys problemau o ran cyd-drefnu gwasanaethau a ddarperir gan y tîm a gwasanaethau eraill a ddarperir gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol;
(c) sicrhau bod gan y tîm weithdrefnau o ran—
(i) amddiffyn plant;
(ii) amddiffyn oedolion;
(ch) sefydlu gweithdrefn i ddatrys anghydfod rhwng yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol am y trefniadau ar gyfer y tîm;
(d) sicrhau bod trefniadau digonol i oruchwylio aelodau proffesiynol y tîm fel a nodir yn rheoliad 2(1) ac i ofalu am eu datblygiad proffesiynol;
(dd) cael adroddiadau ar incwm a gwariant y tîm a hysbysu’r awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol am unrhyw broblemau ariannol neu broblemau yn ymwneud ag adnoddau eraill a fyddai’n debygol o effeithio ar allu y tîm i gyflawni ei amcanion.
Dirymu
5. Mae Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2010([3]) wedi eu dirymu.
Gwenda Thomas
Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2012